Mae ffotograffydd ifanc wedi bod yn tynnu lluniau o ryfeddodau Ynys Enlli…

Dim pawb sy’n gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn byw ar Enlli, yr ynys enwog sydd rhyw ddwy filltir o’r tir mawr ym Mhen Llŷn.

Ond mae ffotograffydd ifanc wedi treulio dau dymor yn gweithio yno, gan achub ar y cyfle i dynnu lluniau ar y safle unigryw.

Cynorthwyo wardeiniaid yr ynys yn ystod y tymor ymwelwyr oedd gwaith Elin Gruffydd am gyfnodau o chwe mis yn 2021 a’r llynedd.