Cafodd aelodau côr ysgol o ardal Penn-ar-Bed (Finistère) yn Llydaw berfformio ar lwyfan yr Arddorfa ar faes Eisteddfod yr Urdd, diolch i gynllun gefeillio lleol.

Roedd dau athro o Collège La Sablière ac wyth o’u myfyrwyr – yn ferched i gyd – wedi dod o Lydaw i Lanymddyfri am yr wythnos. Mae’r dref wedi gefeillio gyda Pluguen (Pluguffan) ger dinas Kemper (Quimper) yn Llydaw.