Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Profiad arbennig yw cael darllen ail gasgliad o gerddi un o feirdd Cymraeg gorau ein hoes, sef Merch y Llyn (2021) gan Grug Muse. Dyma farddoniaeth ac iddi ddyfnder a’i hiaith drawiadol yn torri tua’r wyneb. Ceir fersiynau Saesneg gwych o rai o’r cerddi yng nghyfrol Ulysses’ Cat (2022) hefyd.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd