Rhwng tyfu llysiau, tendio’r rhosod yn yr ardd Eidalaidd ac ymarfer ei Chymraeg, mae garddwr o Frasil yn cael modd i fyw yn Sain Ffagan.

Symudodd Luciana Skidmore o dref Averé ger dinas San Paolo i Gaerdydd ddeuddeg mlynedd yn ôl, wedi iddi gyfarfod Cymro sydd bellach yn ŵr iddi.

Bu’n athrawes Saesneg ym Mrasil, cyn dod yn rheolwr siop yng Nghaerdydd. Ychydig flynyddoedd yn ôl, wnaeth hi ddarganfod garddio a dechreuodd wirfoddoli yn Amgueddfa Werin Cymru.