gan
Cadi Dafydd
Sefydlodd Gwenno Williams, sy’n wreiddiol o Lanfwrog ar Ynys Môn, siop ddillad Kiti ym Mhontcanna yn 2015, a gwerthu rhai o frandiau mwyaf y byd.
Ar ôl bod yn gwsmer ffyddlon am sawl blwyddyn, mae Catrin Verrall, un arall o’r fam ynys – Llanfairpwll y tro hwn – yn gweithio yn y bŵtic yn y brifddinas hefyd.