Daeth y myfyriwr 22 oed i sylw’r genedl yn serennu ar raglen ddogfen ar S4C am ei freuddwyd fawr – bod yn gyflwynydd radio.

Dros gyfnod o chwech mis bu criw ffilmio yn dilyn y dyn ifanc o Flaenau Ffestiniog wrth iddo gyflwyno ar lwyfan gwŷl enwog a chyd-gyflwyno sioe boblogaidd ar Radio Cymru.

A bellach mae o’n gweithio ar raglen Heno…

Ydych chi wastad wedi mwynhau cerddoriaeth?