Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Daisy Jones and the Six gan Taylor Jenkins Reid. Mi’r oeddwn i wedi bwriadu ei ddarllen ers sbel, ond ar ôl gwylio’r gyfres ddiweddar ar Amazon Prime mi symudodd y llyfr i ben y pentwr. Mae’n llyfr hawdd iawn i’w ddarllen ac mae’n ddifyr dianc i fyd dychmygol ‘roc a rôl’ y 1970au yn America.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd