Ar ôl 10 mlynedd yn teithio’r byd mewn grŵp roc, a phedair blynedd yn hel gwymon i fwytai crand, o’r diwedd mae Adam Taylor yn cael cyfle i greu argraff gyda’i gelf…
Bu’r artist Adam Taylor o Sir Benfro yn gweithio tuag at ei arddangosfa ddiweddaraf, sydd i’w gweld yn Oriel Ffin y Parc ger Llanrwst ar hyn o bryd, am flwyddyn gron.