Mae’r cyflwynydd sy’n llais cyfarwydd ar orsaf radio Capital FM yn byw yn nhref Llanfairfechan yn Sir Conwy gyda’i wraig a’u plant.

A’r canwr-gyfansoddwr enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni gyda ‘Patagonia’, a hynny wedi iddo gael caneuon mewn dwy ffeinal flaenorol yn 2008 a 2020…

Sut deimlad oedd dod i’r brig?

Mae o wedi bod yn hollol anhygoel a dw i jest wedi gwirioni’n lân. Mae o’n un o’r pethau yna dw i ddim yn meddwl bydd yn mynd yn hen.