Mae un o sêr y ffilmiau Harry Potter enwog bellach yn gadeirydd ar theatr gymunedol yn Aberhonddu.

Yn byw yng Nghymru ers dros ddegawd, mae Chris Rankin, a fu yn actio rhan Percy Weasley – brawd Ron, un o brif gymeriadau’r gyfres o ffilmiau enwog – yn parhau i droi yn y byd hudol hwnnw gafodd ei greu gan JK Rowling.