Croendena gan Mared Llywelyn

Drama un-ddynes am ferch ifanc o Lŷn yw Croendena gan gwmni drama Frân Wen.

Dros fisoedd yr haf mae ‘Nel’ yn ceisio dygymod â phethau fel plesio’i chyfoedion ar y cyfryngau cymdeithasol, treialon caru a seshys yfed, a galar – ynghyd â phoeni am yr argyfwng tai haf ym Mhen Llŷn.

Mared Llywelyn, y dramodydd o Forfa Nefyn, yw’r awdur, a Betsan Ceiriog sy’n actio ‘Nel’.