Ers ffurfio draw yn y Dwyrain Canol mae criw o Gymry wedi creu cryn argraff ar y sîn werin ryngwladol, ac ar fin teithio i’r Ffindir, Gwlad Belg, Tecsas a Chaliffornia…

Dechreuodd tri aelod gwreiddiol The Trials of Cato greu cerddoriaeth gyda’i gilydd tra’n gweithio yn athrawon Saesneg yn Beirut, prifddinas Lebanon, y wlad sy’n rhannu ffin ag Israel yn y Dwyrain Canol.