Yn brwydro tros barhad yr iaith Gymraeg ers degawdau lu, yma mae’r ymgyrchydd bytholwyrdd yn sôn am y llyfrau fu yn dylanwadu arno…

Mae hyn yn mynd i fod yn achos embaras nawr – Golwg wedi gofyn rhes o gwestiynau am fy hoff lyfrau. Dw i’n arfer dweud wrth bobol fy mod i ond yn darllen llyfrau pan fydda’ i yn y carchar. Y broblem yw bod hynny fwy neu lai yn wir.