Mae gyrfa’r artist cysyniadol a mentrus o Lanelwy, Bedwyr Williams, wedi bod yn un amrywiol a dweud y lleiaf. Dyw ei ‘gerflun byw’ diweddaraf ddim yn eithriad.
Ger Llanberis yng Ngwynedd mae’r artist yn byw ac yn gweithio ond yn arddangos ei gelf drwy Brydain, Ewrop a thu hwnt. Yn ei waith modern crafog, ffraeth, fe fydd yn aml yn ymateb i hynodion bach digri a dinod ein bywydau bob dydd a’r diwydiannau creadigol, gan gyffwrdd weithiau ar hanes diwylliannol a Chymreictod.