Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar yr erthygl ganlynol, i bawb gael blas o’r arlwy…

Pan nad ydy hi’n helpu cleifion mewn ysbyty yn Llundain, mae Efa Supertramp wrth ei bodd yn gigio mewn gwledydd gwahanol.

Nôl yn 2006 fe ddaeth yna gantores hyfryd o gegog ar y Sîn Roc Gymraeg.

Dim ond 15 oed oedd Efa Thomas pan ddaeth hi i’r fei yn canu a chwarae gitâr yn ei band The Stilletoes.

Ac fe gafodd caneuon pync amrwd megis ‘Pawb yn dweud’ groeso brwd.

FAST FORWARD i 2022, ac mae Efa yn 31 oed ac yn gweithio mewn ysbyty yn Llundain… ac yn dal i greu cerddoriaeth.

Mae hi yn dychwelyd i Gymru yn “reit aml” i ganu caneuon pync-gwerin i gyfeiliant ei gitâr acwstig.

Ac yn ddiweddar mi fuodd hi ar daith yn yr Almaen gyda Chwalaw, ei band arbrofol sy’n cynnwys gwesteion gwadd fydd yn gyfarwydd i ddarllenwyr y Babell – y delynores Cerys Hafana a’r artist rap a cholofnydd Golwg, Izzy Rabey.

Mae Efa wastad wed canu am wleidyddiaeth ac mae ganddi ddaliadau sosialaidd cryf.

Ac yn 2020, wrth i’r pandmeig Covid-19 waethygu, fe gafodd gyfle i roi ei hegwyddorion ar waith.

Roedd Haf blasus o gigs yn Sweden a Norwy gyda’i band band rêf-pync Killdren wedi eu canslo, ac Efa yn Llundain gydag amser ac awydd i helpu.

“Wnes i gychwyn gwirfoddoli efo grŵp mutual aid lleol fi, yn mynd â bwyd rownd i bobol oedd methu gadael eu tai nhw achos bod nhw yn shieldio neu am bod ganddyn nhw llwyth o blant a methu fforddio bwyd. Jesd unrhyw un oedd yn sdryglo,” eglura Efa.

Fe gafodd y gantores flas ar y gwaith gwirfoddol a dod yn Weithiwr Cefnogi yn y Gymuned gyda’r Gwasanaeth Iechyd.

“Roedd hwnna yn ddifyr achos roedd o i gyd yn Camden Borough, lle mae yna lwyth o bobol ddiddorol.”

Erbyn hyn mae Efa yn Swyddog Cefnogi Adferiad mewn ysbyty yn Llundain, yn helpu cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth i ymarfer a chryfhau eu cyrff.

“Dw i’n mwynhau yna achos ti yn cyfarfod pobol o all walks of life. A ti’n gallu rhoi ychydig bach o bositifrwydd yn eu bywydau nhw.

“Dw i yna efo gwallt pinc fi yn yr ysbyty, ac mae pobol yn dweud: ‘Oh! I love your hair’.

“Ac yn amlwg, mae i gyd o’r bobol sydd yn gweithio i’r NHS yn halen y ddaear. Maen nhw i gyd yn mynd above and beyond. Felly ti jesd yn cael dy amgylchynu gan bobol neis!”

Arbrofi yn yr Almaen

Yn ogystal â throi at wirfoddoli yn ei chymuned, wnaeth Efa gychwyn y band Chwalaw yn ystod y cyfnod clo, gan ofyn i Cerys Hafana a’r cynhyrchydd Nick Ronin gydweithio ar gân o’r enw ‘Diflannu’ a ddaeth allan yn 2021.

A’r Haf y llynedd fe dreuliodd Efa a Nick ychydig o fisoedd yn Berlin a recordio traciau gyda feiolynydd o’r enw Paul Geigerzähler.

“Mae Paul yn hollol amazing ar y feiolin. Mor mor dda, mae o’n nyts,” meddai Efa.

“A wnaethon ni recordio ychydig o stwff efo fo… fi yn gweiddi stwff pync ffyni drosty fo… tydan ni heb rhyddhau’r stwff yna eto, ond dyna beth rydan ni yn chwarae yn fyw fel Chwalaw.”

Ym mis Medi roedd Chwalaw yn rhan o’r hyn gafodd ei alw yn ‘Taith Cyfeillgarwch Sorbaidd-Cymraeg’ a oedd wedi ei threfnu gan y Kolektiw Wakuum, sef criw o bobol ifanc sy’n cynnal digwyddiadau celfyddydol i hybu hunaniaeth a diwylliant pobol Sorbaidd draw yn yr Almaen.

Yn fras, lleiafrif Slavig sy’n byw yn yr Almaen ac ar y ffin gyda Gwlad Pwyl yw’r Sorbiaid. Mae ganddyn nhw eu hiaith eu hunain, ond mae hi ar erchwyn y dibyn, a theg dweud bod y Sorbiaid wedi straffaglu i oroesi fel pobl.

Fe gafodd Efa fodd i fyw ar y daith oedd hefyd yn cynnwys Cerys Hafan ac Izzy Rabey.

“Roeddan ni yn chwarae heb amps ar safle protest Sorbaidd yn y goedwig, lle maen nhw yn gwrthwynebu cloddio am y glo – achos bod pentrefi yn cael eu chwalu er mwyn cael mwy o’r glo…

“A wnes i gyfarfod y ddynes hyfryd yma sydd yn mynd o gwmpas yn bwydo’r prostestwyr ifanc efo cacennau mae hi wedi eu pobi efo blueberries mae hi wedi bigo yn y goedwig. Ac mae hi MOR ciwt!

“Doedd hi ddim yn siarad gair o Saesneg, ac roedd hi yn pwyntio i lle’r oedd y pentrefi yn arfer bod. A’r oll oedd o oedd wasteland.

Ac roedd y ddynes yma mor cool, wnaeth hi aros tan diwedd y gig, a gwrando ar set pawb.”

Mae Efa wedi bod yn teithio i’r Almaen ers blynyddoedd a bu’n byw mewn sgwats yn Berlin.

Ond mae’r sgwats yn y ddinas honno fwy fel communes cymunedol lle mae pobol yn cyd-fyw mewn glendid a pheth moethusrwydd, yn hytrach na hen dai lle mae pobol wedi torri fewn iddyn nhw ac yn sgwatio heb drydan na dŵr glân.

“Rydw i yn caru Berlin achos mae o fel calon bob dim underground,” meddai Efa.

“Mae o’n le mor lliwgar gyda graffiti neis yn bob man a llwyth o brojectau fel y sgwats yma sydd wedi cael eu troi fewn i venues miwsig lle mae pobol yn dod at ei gilydd.

“Hefyd wnes i lyfio chwarae mewn llefydd bach bizarre yn Serbia a Gwlad Pwyl.

“Mae perfformio mewn llefydd sydd heb fod wedi arfer cael gigs, mae hwnna hefyd yn cool iawn.

“Achos mae pawb o’r pentref yn dod allan. Mae pawb fel: ‘Pam ydach chi yma? Mae hyn yn really random.’

“Os wyt ti yn chwarae mewn rhywle bach, ti yn cyfarfod yr holl bentref.”

Oedd Efa yn gweld tebygrwydd rhwng y pentrefi bach Sorbaidd a rhai o bentrefi gwledig Cymru?

“Oedd, mewn ffordd,” meddai.

“Rydan ni eisiau gwneud taith ffordd arall rownd, lle’r ydan ni’n dod a’r cerddorion Sorbaidd drosodd i Gymru.

“Dyna’r oedden ni yn trio ei drafod ar y daith…

“Roedd gig mewn un pentref draw yna, a dim ond deg tŷ oedd yn y pentref.

“A dw i ddim wir yn gallu dychmygu gwneud gig yn rhywle yng Nghymru sydd ond efo deg tŷ…

“O gymharu gyda’r Sorbiaid, mae ganddo ni lot o fiwsig Cymraeg ac i raddau, rydan ni wedi arfer efo fo…”

Mi hoffai Efa allu gwadd y cerddorion Sorbaidd draw “er mwyn addysgu pobol Cymraeg am yr ardal a’r iaith yn Sorbia, a’r ffaith fod llwyth ohonyn nhw yn dal i gael eu efictio o’r pentrefi, a tydan ni ddim yn clywed amdanyn nhw”.

Rhedeg hanner marathon Caerdydd

Yn ogystal â chychwyn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd a rhoi gwynt yn hwyliau Chwalaw yn y cyfnod clo, mi drodd Efa Thomas at loncian.

“Mae’r pandemig wedi gwneud i fi wneud lot o bethau gwahanol!”

Wnaeth hi redeg hanner marathon Caerdydd ddechrau mis Hydref, a hynny mewn dwy awr a 21 munud.

A sut oedd hi ar derfyn yr 13.1 milltir o redeg?

“Doeddwn i ddim yn rhy ddrwg.

“Roedd fy nghoesau yn brifo’r diwrnod wedyn, ond wnes i fynd i gig i wylio’r Pet Shop Girls.”

Ydy rhedeg marathon gyfan, 26.2 milltir, ar yr agenda?

“Fyswn i yn rhedeg hanner marathon eto, ond dwn i ddim os fyswn i yn gwneud marathon cyfan. Fydd rhaid i fi wneud ychydig mwy o hanner marathons gyntaf.

“Ond roedd [hanner marathon Caerdydd] yn fwy o hwyl nag oeddwn i yn ddisgwyl y bydda fo. Gwrando ar fiwsig, gwajad pobol yn cael hwyl, bwyta sweets.”

Sefyllfa merched y Sîn Roc Gymraeg wedi newid

O ran yr hyn sy’n ysbrydoli Efa, mae hi’n dweud ei bod “mor falch o gael gwneud project [taith yr Almaen] gyda Cerys Hafana ag Izzy”.

“Mae o mor cool bod yna lwyth o ferched yn y sîn Gymraeg rwan, pobol fel Eadyth.

“Ac mae o mor amazing bod llwyth o genod rwan. Achos dw i yn cofio pan o ni yn 15 ac yn chwarae yn The Stilletoes, ac roedd y sîn literally fel boys’ club.

“Yr unig ferched i gael oedd fi a Swci Boscawen, a that’s about it, really.

“Felly mae o’n really cool bod mwy o ferched yn dod a gwneud miwsig.

“Felly dw i yn cael fy ysbrydoli gan y bobol newydd sydd yn dod trwadd. Dw i mor hapus, mae llwyth o fiwsig da.”

Pam bod Efa wedi dal ati i ganu a gigio, 16 mlynedd ers dod ar y sîn?

“Ym… mae o’n kind of cathartic i berfformio…

“Mae o fel rhedeg, yn release o bywyd normal a bob dim sydd yn mynd ymlaen yn pen chdi.

“Dw i ddim yn gwybod beth fyswn i yn gwneud hebddo fo.”