Mae profiadau’r hen a’r ifanc wedi cyfoethogi’r addasiad llwyfan diweddaraf o nofel fawr Caradog Prichard, a Golwg wedi codi’r wal dalu i bawb gael mwynhau’r erthygl ganlynol o’r cylchgrawn cyfredol…

Ar hyn o bryd, mae cwmni theatr Bara Caws ar daith gydag addasiad llwyfan o nofel enwocaf yr iaith Gymraeg, Un Nos Ola Leuad, ac wedi cael ymateb “ardderchog” ers agor. Mae’r holl docynnau wedi gwerthu fel slecs.

Er bod y sgript yr un fath â’r un ar gyfer cynhyrchiad blaenorol yn 2011, mae’r dehongliad yn “hollol wahanol,” yn ôl y cyfarwyddwr, diolch i griw newydd o actorion.

“Dyna sy’n digwydd pan fo criw gwahanol, creadigol o bobol yn dod ynghyd,” meddai Betsan Llwyd. “Maen nhw’n dod â’u dehongliad eu hunain gyda nhw, sy’n berthnasol i’w barn, eu profiadau a’u hemosiynau nhw. Mae’r llwyfaniad a’r dehongliad yn wahanol i’r un blaenorol, er mai’r un sgript ydi hi.”

Gwaith ensemble yw’r cynhyrchiad, gyda’r cast yn cynnwys Owen Arwyn (Dyn), Owen Alun (Bachgen), Manon Wilkinson (Mam), Celyn Cartwright (Jini Fach Pen Cae, Nain, a Gres Evans), Siôn Emyr (Huw, a Now Gorlan), a Cedron Siôn (Moi, a Joni Sowth).

Celyn Cartwright yn
actio Jini Fach Pen Cae

Mae nofel rhannol hunangofiannol Caradog Prichard – a gafodd ei chyhoeddi dros hanner canrif yn ôl, yn 1961 – yn ymdrin â themâu fel gwallgofrwydd, tlodi a diniweidrwydd plentyndod. Mae’r ‘Dyn’ yn troedio llwybrau ei blentyndod mewn pentref chwarelyddol tebyg iawn i Fethesda, ar un noson olau, ac mae’r atgofion yn llifo’n ôl.

Mae Bara Caws wedi bod yn cynnal gweithdai i ysgolion ar yr addasiad, gan ei fod ar gwrs Lefel A Drama CBAC ar hyn o bryd.

“Un o’r cwestiynau sydd ar y papur wastad ydi ‘sut mae cyfoesi dramâu?’,” meddai Betsan Llwyd, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig ar gwmni Bara Caws ers degawd. “Dw i wedi bod mewn penbleth am y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â sut mae rhywun yn cyfoesi Un Nos Ola Leuad, oherwydd mae crefydd mor ganolog ynddi, mae diffyg bwyd ac arian mor ganolog – mae’r fam yn gorfod byw ar y plwy’.

“Wrth gwrs, erbyn heddiw yma, mae hynna’n wir. Rydan ni ’nôl yng nghanol problemau costau byw difrifol, lle dydi pobol ddim yn gallu fforddio bwyta… Y tro yma, mae’r emosiynau yn cael eu trosglwyddo, yn taro rhywun yr un mor berthnasol heddiw ag erioed.”

Unigedd

Fe geir yn y nofel un o olygfeydd mwyaf ingol a thrallodus mewn llenyddiaeth Gymraeg, pan fo’r bachgen yn gorfod tywys ei fam i’r ysbyty meddwl, ac yn crio dagrau hallt wrth ei cholli.

“Mae unigedd yn ganolog iddo,” meddai Betsan Llwyd. “Mae’r bachgen yn cael ei adael. Mae hi’n ingol pan fo Moi yn marw, ac mae’r olygfa enwog gyda Huw yn gadael i fynd i lawr i’r de gyda’i deulu ac mae’r bachgen yn cael ei adael ar ei ben ei hun bach. Wedyn mae’r fam yn colli ei phwyll, a’i gyfrifoldeb o ydi ei rhoi hi yn y seilam yn Ninbych.

“Y bachgen ydi’r prif gymeriad, neu’r dyn, ond y fam ydi’r cymeriad canolog. Heb yr hyn a ddigwyddodd i’r fam, fyddai dim stori gan y bachgen. Fedrwn ni ddim osgoi trasiedi’r tri pheth yna. Mae yna farn wedyn yn cael ei roi ar gymdeithas – roedd hynny’n rhywbeth a gafodd ei godi gan y gynulleidfa noson o’r blaen, mai ‘y gymdeithas oedd â’r bai’. Y nhw oedd wedi creu’r bachgen, a’r dyn, yma.”

O ystyried ein bod ni eto mewn cyfnod lle mae tlodi yn rhemp, faint sydd wedi newid o ran gofal iechyd meddwl mewn cymdeithasau gwledig ers cyfnod Caradog Prichard?

“Yn amlwg, fyddai bachgen 12 oed ddim yn cael mynd â’i fam i’r seilam heddiw,” meddai Betsan Llwyd. “Wrth gwrs, mae yna wasanaethau ar gael nad oedd yn y cyfnod yna. Ond maen nhw o dan bwysau aruthrol, ac mae pryder, gor-bryder, fel pe tasai o’n cynyddu, yn enwedig ymysg pobol ifanc.” 

Profiad actorion o fri

Mae cysylltiad Betsan Llwyd gysylltiad hir gydag Un Nos Ola Leuad, drwy ei gyrfa actio. Hi oedd yn actio’r Fam yn addasiad ffilm Endaf Emlyn ohoni yn 1991, ac fe deithiodd mewn cynhyrchiad llwyfan Saesneg ohoni gyda Theatr Clwyd yn 1993.

“Oherwydd fy mod i wedi gweithio arni hi bob ryw ddegawd, mae fy nheimladau a’m hemosiynau i yn newid wrth fynd yn hŷn,” meddai, “oherwydd y profiadau newydd rydych chi’n dod ar eu traws wrth i chi heneiddio. Mae gwahanol bethau yn taro rhywun erbyn hyn i’r rheiny 30 mlynedd yn ôl pan oeddwn i’n dechrau ar y gwaith gyda’r ffilm.”

Mae sgript y sioe yn seiliedig ar waith gwreiddiol gan y ddau actor hynod brofiadol, Maureen Rhys, a John Ogwen – a oedd yn adnabod Caradog Prichard ei hun. Mi ddaeth y ddau actor i siarad gyda’r cast cyn dechrau’r daith oherwydd eu cysylltiad hir â’r nofel.

“Mae rhai pobol ifanc sy’n gweithio ym myd y theatr heddiw sydd ddim yn ymwybodol o hanes y theatr Gymraeg,” meddai Betsan Llwyd. “Mae’n bwysig iawn cadw gafael ar y to a wnaeth roi bodolaeth i bosibilrwydd bod yna theatr Gymraeg yn bodoli. Rhaid cadw’r bobol yma i ddod i mewn i siarad gyda’n pobol ifanc, i ddysgu mwy am yr hyn sydd wedi eu galluogi i gael gyrfa yn y theatr Gymraeg heddiw.”

Bu’r cwmni mewn cysylltiad “ar hyd y daith” gyda merch yr awdur, Mari Prichard.

“Mae hi wedi bod yn bwysig iawn meithrin y berthynas yna,” meddai Betsan Llwyd. “Mae hi wedi gweld copi o’r sgript, rydyn ni’n anfon e-byst ati ynglŷn â beth sy’n mynd i’r rhaglen, er mwyn gwneud yn siŵr bod hi a’r ystâd yn hapus. Mae hynna’n rhywbeth gwerthfawr iawn… Mae hi’n bwysig i ni warchod ein gweithiau llenyddol a’u hetifeddiaeth. Mae hi yn gyfrifoldeb.”

“Mae gan bawb berthynas efo’r nofel…”

Owen Alun, actor 26 oed o Saron ger Caernarfon, sy’n actio’r Bachgen. Digwydd bod, mi fuodd yn actio union yr un cymeriad pan oedd yn fachgen ysgol, yn rhan o basiantau’r Parchedig Harri Parri yng Nghapel Seilo.

Rhwng 2007 a 2015 mi fuodd yn portreadu’r cymeriad Dyfan ar y gyfres Rownd a Rownd. Yna buodd i goleg actio Rose Bruford ar gyrion Llundain. Daeth adref i Gaernarfon adeg y pandemig, ac mae yno o hyd, yn “stryglo i adael”. Buodd yn sôn wrth Golwg am y “fraint” o gael actio yng nghynhyrchiad cenedlaethol Un Nos Ola Leuad gyda Bara Caws…

Owen Alun (y Bachgen), gydag Owen Arwyn (Dyn) a Manon Wilkinson (y Fam) y tu ôl iddo

“Mi wnes i ei astudio fo’n Lefel A, a dw i’n cofio gweld y cynhyrchiad gwreiddiol Bara Caws, a’i joio hi. Mae hi’n nofel sy’n sticio efo chi, yn enwedig os ydach chi wedi ei hastudio hi. Mae gan bawb berthynas efo’r nofel, mae hi’n golygu lot i lot o bobol, felly mae hi’n fraint cael bod yn y cynhyrchiad.

“Fel un cynhyrchiad rydan ni gyd ar y llwyfan lot o’r amser. Does yna ddim rhannau mawr a rhannau bach. Taith y Dyn ydi’r nofel, ac mae Owen Arwyn yn wych ynddo fo. Fel y mae o yn cerdded drwy’r pentref, mae ei atgofion yn dod iddo fo, a fi sy’n chwarae’r atgofion, mewn ffordd. Mae lot o olygfeydd efo’r fam, a golygfeydd neis a dwys fel y mae o’n mynd drwy’r pentref.

“Wrth weithio ar y ddrama, mae yna rywbeth oesol am y themâu, ac am eu bywyd nhw. Nid dim ond am y cyfnod mae o – mae o hefyd am berthnasau, a synnwyr cymdeithas. Mae yna rywbeth yn y nofel sy’n eitha’ oesol. Mae yna enghreifftiau o bobol ifanc y dyddiau yma sydd wedi cymryd y nofel ac wedi mynd yn eitha’ obsesd efo hi, sy’n profi ei bod hi’n dal yn berthnasol.

“Rydan ni ’nôl mewn byd reit gythryblus, a phethau’n galed ar lot o bobol. Ond mae lot ohono fo am berthnasau, a ffrindiau. Mae pawb yn gallu uniaethu efo’r berthynas yna rhwng y Fam a’r Bachgen – eu rhieni â nhw. Mae gan bawb berthynas efo’u cartre’. Dyn yn dod nôl i bentre’ ei fagwraeth ydi hwn, a chael yr holl atgofion i gyd. Mae hynny i gyd yn berthnasol. Dyna y teimlais i yn gry’ pan roeddan ni’n eu hymarfer i; stori am ddyn a’i atgofion ydi o, ac mi fedrwn ni gyd uniaethu â hynny.”

  • Un Nos Ola Leuad ar daith tan 9 Tachwedd – manylion yn y Calendr ar dudalen 26