Taith gerdded o Awstria i’r Eidal wnaeth ysbrydoli Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru i fynd ati i ymgyrchu yn erbyn arfau ac atomfeydd niwclear.

Wrth droedio o Fiena i Trieste drwy wledydd fel Slofenia a Hwngari, cafodd Dr Bethan Siân Jones gyd-gerdded ag ymgyrchwyr oedd wedi bod yn llafar dros heddwch yn ystod y Rhyfel Oer.