Mae’r Deyrnas Unedig yn ymfalchïo yn yr honiad ei bod hi’n wlad lle mae gan bawb ryddid i ddweud eu dweud a thrafod gwahanol bynciau heb boeni am gael eu herlyn.

Fodd bynnag, mae’r dyddiau yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth wedi profi nad yw hynny cweit yn wir.

Oes, mae yna sawl un wedi cael eu harestio am gyfleu safbwyntiau gwrth-frenhinol yr wythnos hon.