Mae’r cyn-asgellwr Shane Williams yn un o gwsmeriaid busnes newydd sy’n addasu’r fan gyffredin yn westy ar bedair olwyn…

Bu i’r galw am gamperfans gynyddu yn ystod y pandemig wrth i fwy o bobol fwynhau gwyliau ar stepen eu drws, ac mae dau frawd o Rydaman wedi manteisio.

Dechreuodd busnes Tom a Rhys Jones o brosiect personol ac ymgais Tom i droi ei fan yn gamperfan, ond bellach maen nhw’n gweithio ar addasu rhyw bedair neu bum fan yr wythnos i gwsmeriaid.