Cynghorydd Abererch yn dweud ei ddweud ar genedlaetholdeb, Cyngor Gwynedd, y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a’r pwnc mawr y dyddiau hyn… ail gartrefi!

“Dw i ddim yn genedlaetholwr”.

Dyma ddatganiad na fyddech chi’n disgwyl ei glywed gan gynghorydd a Chymro Cymraeg o Ben Llŷn.

Cipiodd Richard Glyn Roberts ward Abererch ym mis Mai eleni, a hynny gyda mwyafrif sylweddol dros ei ddau wrthwynebydd.