Mae’r syniad o ‘Salon des Refusés’ yn rhan o draddodiad parchus iawn ym myd celf Ffrainc – ac mae gweithiau gwrthodedig y Lle Celf yn yr Eisteddfod am gael yr un driniaeth…
Arddangosfa o weithiau celf a gafodd eu gwrthod gan reithgor ‘Salon’ swyddogol Paris oedd y ‘Salon des Refusés’ gwreiddiol.
Ymhlith y rhai oedd wedi eu gwrthod yn 1863 oedd Edouard Manet a Camille Pissaro – enwau a ddaeth yn arwyr avant-garde y byd celf wedyn.