Mae dwy athrawes lanw wedi bod yn addurno pebyll ar gyfer partïon pen-blwyddi a dathliadau gorffen arholiadau…

Gobaith dwy o’r gogledd yw cynnig profiad campio arbennig i blant drwy logi pebyll addurnedig.

Mae gan Nona Williams a Glesni Evans bebyll yn y Bala sy’n addas i’w gosod tu mewn a thu allan, ac mae rhoi’r cyfle i blant a phobol ifanc gymdeithasu a diddanu eu hunain heb dechnoleg wrth wraidd y busnes.