Yn hogyn ifanc, roedd un o sefydlwyr cwmni syrcas Cymraeg Cimera yn gallu plygu ei hun mewn i siwtces.

Acrobateg a gwneud campau yn yr awyr ydy arbenigedd Iago Morgan Jones, sy’n dod o Rosgadfan ger Caernarfon yn wreiddiol.

Bellach, mae yn byw mewn carafán dros y bryniau ym Metws Garmon, yn byw ar y tir a magu hwyaid.

Rhedeg cwmni Cimera a pherfformio efo’r syrcas sy’n mynd â’r rhan fwyaf o’i amser, ond mae ganddo swyddi eraill yn garddio a hel planhigion gwyllt hefyd.