Mae gan y fodel o’r Wyddgrug radd yn y Gyfraith ac ers tair blynedd mae hi’n gwerthu lluniau ecsgliwsif o’i hun i danysgrifwyr dros y We.

Ddechrau’r mis roedd hi ar rifyn arbennig o Pawb a’i Farn o Steddfod yr Urdd yn Ninbych…

Sut beth oedd ffilmio Pawb a’i Farn a chael bod ar Faes yr Urdd? 

Profiad ardderchog. Roeddwn i yn falch i gael y cyfle i ddangos bod yna fwy i mi na jest colur a dillad isa’, a bod yna rywbeth yn y pen yma!

Roeddwn i yn arfer bod yn aelod o’r Urdd pan oeddwn i’n iau ac mi wnes i gystadlu mewn pethau fel dawnsio disco a’r gân actol. Oherwydd prysurdeb oriau gwaith adeg wythnos yr Eisteddfod wnes i ddim cael gwario llawer o amser yno, jyst cip olwg o gwmpas y Maes cyn Pawb a’i Farn.

Faint o her yw cynnal y busnes wrth i’r esgid ariannol wasgu? 

Mae hi’n anodd bod yn hunangyflogedig hefo costau byw yn cynyddu. Mae pobl yn canslo eu tanysgrifiadau a dw i wedi sylwi bod incwm yn gostwng ychydig fel canlyniad.  Dw i ddim yn flin hefo’r bobl sy’n canslo oherwydd dw i’n deall y sefyllfa. Dw i hefyd yn gweld bod pethau fel bwyd a phetrol yn ddrud iawn rŵan. Dw i dal i weld bod yna lawer o alw am luniau, mwy os rhywbeth, ond mi wnaeth y pandemig helpu i gael pobl i danysgrifio.

Beth fyddai eich cyngor i rywun sy’n ystyried gwerthu lluniau ar wefan OnlyFans? 

Dw i’n meddwl bod angen i rywun ystyried beth fydd effaith OnlyFans ar weddill eu bywyd. Roeddwn i yn deall bysa opsiynau gyrfa yn lleihau ar ôl gwneud OnlyFans, ond wnes i ddim deall faint o effaith bysa fo yn ei gael ar agweddau eraill o fy mywyd.

Dw i’n ffeindio fo’n anodd ar y dating scene i allu ffeindio rhywun sydd yn oce hefo fy swydd. Mae trolio ar-lein yn gallu bod yn galed i gymryd hefyd. Dros amser dw i wedi dod i arfer, ond roedd o’n andros o anodd i ddechrau – doeddwn i jest ddim yn deall pam bod pobl yn gyrru’r negeseuon a’r sylwadau hyll!

Er bod yr arian yn grêt, a dw i wedi bod mor lwcus hefo fy llwyddiant yn y diwydiant, mae yna ochr dywyll i’r We, felly jest heads up bach!

Ers faint ydech chi’n cefnogi Clwb Pêl-droed Wrecsam? 

Dw i wedi cefnogi Wrecsam ers amser rŵan – dw i wrth fy modd!

Roedd cael Ryan a Rob yn buddsoddi yn anhygoel. Mae eu cefnogaeth yn mynd yn bellach na’r cae pêl-droed, dw i’n teimlo eu bod nhw hefyd wedi buddsoddi yng Nghymru. Mae’n amlwg bod y ddau yn parchu’r iaith Gymraeg ac yn gwneud llawer o ymdrech i’w hybu yn fyd eang. I fi, dyma fy hoff beth i ddod allan o’r buddsoddiad. 

Faint o’ch cwsmeriaid chi sydd yn gefnogwyr pêl-droed Cymru? 

Fyswn i’n dweud tua 90%! Dw i’n lwcus fy mod i hefo ychydig o grysau i greu digon o luniau gwahanol. Fues i i’r gêm fawr ar y pumed o Fehefin [yn erbyn Wcráin] a fues i i Rotterdam [pan gollodd Cymru 3-2 i’r Iseldiroedd]. Dw i’n gobeithio gweld gêm fyw ym mis Medi hefyd.

Sut brofiad oedd astudio’r Gyfraith yn y coleg?

Wnes i weithio’n galed yn y coleg a dw i’n falch iawn i mi gael 2:1 yn y Gyfraith.

Roedd cael gradd i mi yn rhywbeth roeddwn i’n gwybod byswn i yn gallu disgyn yn ôl ar un diwrnod if all else fails. Dw i ddim efo diddordeb bod yn gyfreithiwr, ond dw i’n hapus yn gwybod bod y radd yna ar fy CV jest rhag ofn dw i ddim eisiau modlo ddim mwy a bo fi eisiau trio am swydd arall. 

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i yn mynd i’r gym bob hyn a hyn! Dw i wedi dechrau’r ‘Couch 2 5K’ ac ar wythnos chwech ar hyn o bryd. Dw i hefyd yn mynd i nofio a dawnsio polyn yn wythnosol.

Beth sy’n eich gwylltio?

Pobl yn cerdded yn ara’ deg o’m mlaen i.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Tom Jones ac Elvis… a bwyta cyri, chips, reis a bara naan.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Nain!

Pa eiriau ydych chi’n gorddefnyddio?

Dwi’n llwglyd.

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Pan oeddwn i’n ifanc wnaeth mam wneud gwisg ffansi i mi o Jessie y cowgirl o Toy Story. Yn anffodus nid yw’r wisg yn ffitio fi erbyn hyn!

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Roeddwn i wedi gwisgo yn ddel i fynd am noson allan yn Gaer, ac wedi prynu diod ac wedi gollwng o lawr fy ffrog, ac mi wnaeth o adael marc enfawr pinc ar flaen y ffrog… roedd hyn ar ddechrau’r noson, felly roeddwn i wedi gorfod aros yn y ffrog trwy’r nos!

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Dw i’n mwynhau pan mae yna briodas yn y Teulu oherwydd mae’r dawnsio yn y dŵ nos yn gymaint o hwyl hefo pawb!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Y ffaith bod pobl ddim yn coelio mai Alaw ydy enw fi.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Strongbow Dark fruits!

Beth yw’r llyfr difyrraf i chi ei ddarllen?

The Secret.

Beth yw eich hoff air?

Sbigoglys.

Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?

Bo fi yn gallu pobi bara.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Er bo fi yn edrych yn dal yn fy lluniau, dw i ond yn bedair troedfedd ac un ar ddeg modfedd.