Yr wythnos hon mae hi yn bum mlynedd ers marwolaeth cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.

Bu farw’r gŵr gafodd ei ddisgrifio fel “tad datganoli” ac un o “gewri’r Blaid Lafur yng Nghymru” wrth reidio beic ger ei gartref ym mis Mai 2017.

Treuliodd dros 30 mlynedd ar y llwyfan gwleidyddol, gan wneud enw iddo’i hun yn 1987 ar ôl cael ei ethol yn Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd.