Bydd drama newydd am un o arwyr pennaf y Cymry yn osgoi bod yn “wers mewn gwisg”… 

Bron i 500 mlynedd yn ôl, fe gafodd un o gymeriadau lliwgar hanes Cymru ei eni yng Ngheredigion, un y mae ei enw yn dal yr un mor gyfarwydd i ni heddiw ag erioed.

Mae cwmni theatr Arad Goch ar fin mynd ar daith drwy Gymru gyda’i ddrama am y lleidr pen-ffordd direidus o Dregaron, Twm Sion Cati.