Mae pedair Menter Iaith yn y de wedi derbyn £10,000 yr un ar gyfer gweithgareddau i hybu’r Gymraeg drwy law Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mentrau Iaith Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Cwm Gwendraeth Elli a Chaerdydd sy’n cael yr arian newydd.

Rachel Matthews yw Swyddog Cymunedol Oedolion Menter Iaith Caerdydd. Ddechrau’r wythnos fe soniodd hi wrth Golwg am ddigwyddiad sydd ganddi ar y cyd â Re-engage Cymru yng Ngerddi Soffia ddydd Gwener yma, 8 Ebrill.