Roedd hi’n benwythnos cyffrous ar y naw yng Nghaerdydd wrth i ŵyl gerddoriaeth 6 Music y BBC ddod i’r ddinas.

Cafodd y rhai oedd ddigon lwcus i gael tocynnau eu sbwylio, gyda gigs amrywiol yn digwydd ar hyd a lled y ddinas.

Wrth siarad â Bwrlwm cyn yr ŵyl, fe ddywedodd Huw Stephens, y cyflwynydd o fri sydd â rhaglen ar Radio 6 Music, ei fod o’n beth “gwych bod e’n dod i Gaerdydd”.