I genhedlaeth o Gymry, mae Dyfed Thomas yn adnabyddus am bortreadu cymeriad Brian Lloyd Jones yn y gyfres blant Siop Siafins gafodd ei darlledu gyntaf yn 1979.

Ers hynny, mae gyrfa’r actor o Rosllannerchrugog ger Wrecsam wedi mynd i sawl cyfeiriad, o weithio ar sgriptiau ffilmiau Bollywood i ganu mewn band roc ar lwyfannau Cymru.