Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Codi Llais, Menna Machreth. Casgliad o brofiadau, dyfyniadau a meddyliau am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynes heddiw. Mi brynais y llyfr i gael ei ddechrau ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched – hyd yn hyn dw i’n hyderus iawn gyda fy newis o lyfr.