Mae Emyr Gibson yn fwyaf adnabyddus am actio’r cymeriad Meical ar Rownd a Rownd am dros ddeunaw mlynedd.

Ond mae’r diddanwr sy’n dod o Ddeiniolen ger Caernarfon yn troi ei law at bob math o wahanol ddiddordebau.

Yn ogystal â bod yn un traean o grŵp Trio, mae yn gweithio rhan amser mewn cartref dementia ac yn cyd-redeg distyllfa jin.