Mae canwr-gyfansoddwr go unigryw ar fin rhyddhau ei gân Gymraeg gyntaf…

‘Y Nos Mewn Cariad’ yw enw cân newydd WoodooMan, sef yr artist aml-offerynnol Iwan ap Huw Morgan o Gaerdydd.

Mae’r sengl newydd eisoes wedi ei chwarae ar Radio Cymru gan Huw Stephens a Radio Wales gan y DJ Adam Walton, ac mi fydd hi ar gael i’w ffrydio’r wythnos nesaf.