Fe gollodd Aled Hall flwyddyn gyfan o waith yn y Royal Opera House yn 2020 oherwydd Covid. Ond mae’r tenor ’nôl yn yr entrychion yn ddigon clou…

Fe fydd Aled Hall yn codi’n fore iawn gartref ar ei fferm yn Nol-gran ger Pencader, i grwydro’r caeau gyda’i gamera, fel mae e wedi gwneud ers diwrnod cyntaf y cyfnod clo yn 2020.