A wyddoch chi fod lle go arbennig i artistiaid ar stryd fawr Corris, y pentref i lawr yn ddwfn yn y dyffryn, ychydig i’r de o Ddolgellau?

Hen siop fawr bedwar llawr yng Nghorris yw Stiwdio Maelor, gyda stafelloedd pwrpasol i wehyddion, argraffwyr a ffotograffwyr – ac sy’n barod i roi croeso cynnes i artistiaid ddod i aros.