Roedd hi’n ddiwrnod mawr yn y Senedd ddydd Mawrth, gyda phob un o’r 60 aelod yn cael mynychu’r Siambr os oedden nhw am wneud hynny, a gyda’r rhyfel draw yn Wcráin yn dominyddu’r newyddion roedd hi’n amser dyrys i ddychwelyd.

Dyma’r tro cyntaf ers mis Mawrth 2020 i ddadleuon y Senedd gael eu cynnal yn llawn ym Mae Caerdydd, er bod rhai aelodau yn dal i ddewis cyfrannu drwy Zoom.