Mae Enlli Thomas yn byw yn Abergwyngregyn ac yn Athro yn Ysgol Gwyddorau Addysgol Prifysgol Bangor…

Pam casglu rhestr o eiriau ‘iaith babis’ Cymraeg?

Rydan ni eisiau canfod sut mae pobol yn siarad iaith babis efo plant, fel bod pan mae dysgwyr yn dod i’r Gymraeg am y tro cyntaf, neu ddim yn hyderus yn eu Cymraeg, bod nhw o leiaf yn gallu troi at restr o’r math o bethau mae rhywun yn defnyddio yn Gymraeg wrth siarad efo babis a phlant bach.

Ac mae’r project yn rhan o’r gwaith o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

Ydy, achos mae trosglwyddiad iaith yn y cartref yn un ffordd o gadw iaith yn iaith fyw, yn iaith gyntaf sy’n cael ei throsglwyddo i’r plentyn yn y cartref.

Mae o’n ffordd o roi hyder i rieni siarad rhywfaint o Gymraeg gyda’u plant. Y mwyaf mae plentyn yn glywed, gorau yn byd.

Beth yn union sy’n cyfrif fel ‘iaith babis’?

Rydan ni’n newid ein ffordd o siarad wrth siarad efo plant, yn symleiddio’r hyn rydan ni’n ddweud, yn arafu ein siarad a phwysleisio geiriau lot mwy.

Hefyd, mae ganddo chi eirfa benodol wrth siarad gyda phlant. Fyse chi ddim yn galw rhywun yr un oed â chi yn ‘Siwgr Lwmp’ neu ‘Sdwnsh’ neu yn gofyn: ‘Aaa, oes gen ti popo?’

Fyse chi ddim yn dweud ‘popo’ wrth oedolyn, oni bai eich bod yn gwneud jôc…

Sut ydach chi am gasglu’r esiamplau o ‘iaith babis’?

Mae yna holiadur wedi mynd allan ar y cyfryngau cymdeithasol drwy’r Mudiad Meithrin.

Beth yw eich gwaith?

Dw i wedi bod yn ymchwilio i’r Gymraeg a dwyieithrwydd ers 1996, felly dw i wedi bod o gwmpas ers dipyn o amser – chwarter canrif!

Ymchwilio a darlithio ydy’r swydd a dw i wrth fy modd yn rhannu be’ dw i’n wybod efo myfyrwyr.

Ond un o’r pethau dw i wir yn mwynhau yw goruchwylio myfyrwyr PhD ac mae o’n hyfryd gallu gweld nhw yn aeddfedu a datblygu hyder yn eu gallu nhw eu hunain wrth fynd ymlaen i gyhoeddi eu gwaith a chael swyddi yn ddarlithwyr.

Beth yw’r pethau difyraf wnaethoch chi ddysgu yn ystod eich ymchwil?

Un peth hollol cool ydy sut rydan ni’n gwneud synau anifeiliaid… doeddwn i heb sylweddoli gymaint o wahaniaeth sydd yna ar draws y gwahanol ieithoedd.

Er enghraifft, rydan ni’n dweud ‘soch soch’ i gyfleu mochyn, ac ‘oink oink’ yn y Saesneg.

Ond ‘hunk’ ydy o yn iaith Albania  a ‘grunz’ yn Almaeneg.

Oes yna ddigon o Gymraeg ar y We?

Fydd yna byth ddigon o Gymraeg ar y We!

Ond mae gweld amrywiaeth y Gymraeg ar y We, gyda phobol sydd yn siarad Cymraeg iaith gyntaf, ail neu drydedd iaith, y tafodieithoedd yma a phobol o wahanol oedrannau yn ei defnyddio hi, mae hynna yn hollbwysig.

Beth yw eich atgof cynta’?

Gorfod mynd i’r ysbyty pan oeddwn i ryw ddyflwydd oed, achos fy mod i wedi yfed Windolene.

Roedd Mam wrthi yn glanhau’r ffenest ac roedd y stwff roedd hi’n ddefnyddio yn binc fel milkshake

Beth yw eich ofn mwya’?

Mae fy ngolwg i yn ofnadwy a dw i wedi bod yn gwisgo lensys cyffwrdd ers pan oeddwn i yn bymtheg, a fedra i ddim dioddef gwisgo sbectol.

Felly fy ofn mwyaf ydy bod yr optegydd yn dweud: ‘Sori, fedrwch chi ddim gwisgo lensys ddim mwy, rhaid gwisgo sbectol’. Ac os fyswn i yn colli’r sbectol, fyswn i ddim yn gallu gweld…

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Cyn Covid roeddwn i yn gwneud park run, ac roedd fy amser yn dechrau gwella… rŵan dw i’n mynd i wersi step aerobics a circuit training pan fedra i.

Beth sy’n eich gwylltio?

Oh! Bagiau baw ci ym mhob man, neb yn mynd â nhw adref nag yn eu rhoi nhw yn y bin.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol?

Fyswn i yn gwadd pobol sydd wedi golygu lot i mi ond sydd ddim yma ddim mwy. Pobol fel Taid a chwaer Mam, Anti Maureen, a fy hen athrawes piano, Mrs Marian Williams.

Os byswn i yn cael pum munud yn eu cwmni nhw eto, fyswn i wrth fy modd.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Carwyn y gŵr. Wnaethon ni gyfarfod lawr yn Abertawe, roeddwn i yn cynnal gweithdy ar ddwyieithrwydd.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Pan mae fy mab yn sôn am rywun, a does gen i ddim clem am bwy mae o’n sôn, fydda i’n gofyn: ‘Pwy ydy hwnnw pan mae o adra?’

A fedr o ddim diodde’ fi’n dweud hynna!

Hoff wisg ffansi? 

Pan oeddwn i tua wyth oed ges i drydydd yng ngharnifal Llanfairpwll am wisgo fyny fel Rod Hull ac Emu.

Beth yw eich hoff raglen deledu?

Dw i’n ffan mawr o unrhyw beth Scandinafaidd, a’r ffefryn fydda The Killing.

Dw i’n digwydd bod yn Athro ar ymweliad ym Mhrifysgol Umeå yn Sweden.

Parti gorau i chi fod ynddo?

Dathlu Nos Galan troad y ganrif yn 2000. Llond tŷ o bobl yn y cyfnod pan oeddwn i ar fin gorffen PhD ym Mangor.

Gwyliau gorau?

Campio ar ynysoedd yr Orkneys ar dop yr Alban yr Haf diwethaf. Lle mor hanesyddol a difyr a dim llawer o bobl yna. Gwirioneddol fwynhau yno.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Fy llyfr gorau erioed ydy Un nos ola leuad – pan ddarllenais i honno gyntaf, wnes i ei darllen hi saith gwaith yn olynol.

Be’ oedd yn ddifyr hefyd oedd bod fy athrawes piano yn adnabod Caradog Prichard ac wedi bod yn ei bartis o yn Street Fleet yn Llundain, ac yn dweud ryw straeon amdano.

Ac yn fwy diweddar, roeddwn i yn fy nyblau yn darllen Y Sw gan Tudur Owen.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Dw i erioed wedi gwylio Line Of Duty, Game of Thrones na chwarae Wordle.