Mi dreuliodd Aelod o’r Senedd Caerffili fis cynta’r flwyddyn yn trydar yn Gymraeg yn unig, ac mae yn dweud bod ganddo’r hyder bellach i ddefnyddio’r iaith yn y Siambr ac ar radio a theledu.

“Roeddwn yn gweld bod fy nhwîts yn Saesneg yr un mor boblogaidd yn Gymraeg,” meddai Hefin David, “ac o hynny fe ddechreuais i ddefnyddio’r Gymraeg mewn pwyllgorau Seneddol gan drydar clipiau o hynny a’u gosod ar-lein.