Tra’r oedd sawl un o Aelodau o’r Senedd Plaid Cymru yn Aberystwyth ym mhrotest fawr Cymdeithas yr Iaith, yn mynnu bod ein Llywodraeth yn taclo problem fawr yr ail dai, roedd eu harweinydd draw yn yr Wcráin.

Ond yn wahanol i’r Pleidwyr oedd ar Bont Trefechan ddydd Sadwrn, bu’n rhaid i Adam Price  gyfiawnhau ei drip tua’r dwyrain wrth i’r ofnau am ymosodiad gan Rwsia dyfu.