Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen
The Bilingual Brain gan Albert Costa (a gyfieithwyd i’r Saesneg gan John W Schwieter). Mae’r ymennydd dwyieithog yn anhygoel. Y peth sy’n fy nharo i yn eithaf aml ydy diffyg dealltwriaeth pobol uniaith o ddwyieithrwydd, bod ein hymennydd ni wedi ei weirio’n wahanol ac yn gweld y byd yn wahanol. Mae’n llyfr gwych ar gyfer deall sut mae’r ymennydd dwyieithog yn gweithio’n gwbl wahanol.