Mae’r gwahaniaeth rhwng cyflogau dynion a merched yn y sector gelfyddydol yn “arswydus”. Dyna farn arbenigwr sy’n rhedeg grŵp sy’n ceisio gwella’r sefyllfa, ynghyd â sawl her arall sy’n wynebu’r sector …

Dros y Nadolig, fe fuodd yr actor Steffan Donnelly yn chwysu chwartiau dros ystadegau a ffeithiau er mwyn llunio adroddiad sydd o bwys mawr i’r sector celfyddydol yng Nghymru.