Mae gan nifer o bobl mewn swyddi cyhoeddus eu rhesymau tros fentro i fyd sy’n llawn cyfrifoldeb ac yn aml, beirniadaeth.

Ond teg yw dweud bod stori Comisiynydd Plant nesaf Cymru yn un sydd yn werth ei chlywed.

Fe gafodd Rocio Cifuentes ei phenodi i’r swydd bwysig yn ddiweddar a bydd yn cychwyn ar y gwaith ym mis Ebrill, gan gymryd drosodd gan Sally Holland.