Trigain mlynedd yn ôl fe glywyd llais Saunders Lewis ar donfeddi’r BBC wrth iddo draddodi un o areithiau pwysicaf y ganrif ddiwethaf, ‘Tynged yr Iaith’, gan rybuddio’r Cymry bod yr iaith Gymraeg yn wynebu difodiant.

Ac ers 1962 mae grym y geiriau ‘Trwy ddulliau Chwyldro yn Unig’ yn parhau’n adlais i ymgyrchwyr hyd heddiw.

Saunders Lewis (Lluniau trwy garedigrwydd Gwasg y Lolfa)

Ym mis Chwefror fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Rali ar Bont Trefechan yn nhref Aberystwyth, sef lleoliad y brotest gyntaf yn sgil araith Saunders Lewis yn 1962, i nodi chwe deg mlynedd ers y darllediad tyngedfennol.

Ac ar drothwy’r pen-blwydd mae Golwg wedi holi Dafydd Iwan am effaith yr araith a’r protestio fu yn sgîl sefydlu Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal â chael ei farn ar sefyllfa’r Gymraeg a Chymru heddiw.

“Efallai ei bod ychydig bach yn rhy simplistaidd i ddweud mai darlith radio Saunders Lewis oedd yn gyfrifol dros sefydlu Cymdeithas yr Iaith, ac mai dyna ddechreuodd y protestio,” meddai’r canwr a fu yn ymgyrchu tros y Gymraeg ers y 1960au.

“Roedd darlith Saunders yn rhoi’r cyd-destun a’r gefnogaeth ddeallusol. Ond mi fyddai Cymdeithas yr Iaith wedi cael ei sefydlu heb y ddarlith, mae’n bwysig iawn pwysleisio hynny.”

Er bod Dafydd Iwan yn adnabyddus fel ymgyrchydd tanbaid sydd wedi bod wrth galon y tirlun gwleidyddol yng Nghymru ers degawdau, fe fethodd ef y darllediad tyngedfennol.

“Mae’n rhyfedd iawn imi gyfaddef hynny,” meddai.

“Wrth gwrs, fe wnes i ddarllen wedyn yr hyn yr oedd ganddo i’w ddweud.

“Ond erbyn i’r Gymdeithas ddechrau gweithredu roeddwn i yn y coleg yng Nghaerdydd ac yn styc yn fano pan oedd y brotest gyntaf ar bont Trefechan.

“Roedd yna anniddigrwydd ar y pryd nad oedd digon yn cael ei wneud o ran yr iaith.

“Roedd teulu’r Beasly’s ger Llanelli wedi cynnau’r fflam gyda gweithredu mwy uniongyrchol efo statws yr iaith Gymraeg cyn yr araith [trwy fynnu dogfennau treth yn yr iaith Gymraeg], ac roedd yna ymdeimlad fod y Blaid ddim yn ddigonol i ateb y gofynion hynny.

“Felly mi ddaeth araith Saunders Lewis ar adeg lle’r oedd yna glustiau’n barod i wrando.

“Ond roedd bod yng Nghaerdydd ychydig bach yn rhwystredig gan fod rhywun yn teimlo allan ohoni. Roedd y gwrthryfel wedi canolbwyntio ar Fangor ac Aberystwyth yn bennaf, ond beth wnaethon ni wedyn wrth i’r ymgyrchoedd amlhau a dwysau oedd tynnu mwy o bobl oedd ddim yn fyfyrwyr i mewn.

“Roeddwn i’n teimlo mor rhwystredig, fe wnes i adduned i beidio â cholli unrhyw brotest Cymdeithas yr Iaith yn y dyfodol ac fe fyddwn i’n trefnu bws o Gaerdydd.

“A dyna ddigwyddodd. Ac os nad oedd yna fws, yn sicr byddai llond car yn mynd.”

Ac er i Saunders Lewis rybuddio y gallai’r Gymraeg farw cyn diwedd yr ugeinfed ganrif, nid felly y bu hi wrth gwrs.

“Fe allwn ni ddweud mai ymdrechion Cymdeithas a sicrhaodd na fyddai hynny‘n dod yn wir,” meddai Dafydd Iwan.

“Roedd yn rhaid newid meddylfryd y Cymry ac roedd Cymdeithas yr Iaith wedi chware rhan allweddol yn y newid yna, drwy bwysleisio y dylai’r Gymraeg fod yn iaith swyddogol yng Nghymru.

“Doedd yna ddim modd gwrthwynebu’r syniad ac felly roeddem ni ar dir cadarn iawn ac yn medru dweud hynny mewn achosion llys dirifedi, ac roedd gwleidyddion o bob plaid yn gweld doedden nhw ddim yn gallu gwrthwynebu hynny.”

Bu Dafydd Iwan o flaen ei well yn ystod ymgyrchoedd cynnar y Gymdeithas, a gweld bod cefnogaeth ymhlith y sefydliad.

“Pan es i’r carchar fe wnaeth ynadon gyfrannu tuag at dalu fy nirwy i fel arwydd o gefnogaeth.

“Wel, dyna pam y daeth Arglwydd Hailsham yn gyfrifol am ynadon y Deyrnas ar y pryd. Fe ddaeth e i Fangor i roi stŵr i ynadon Cymru am fod yn wirion a chefnogi tor-cyfraith.

“Ond wrth gwrs, mi’r oedd pethau felly yn taflu olew ar y tân ac yn dwysau’r frwydr ac yn dod â’r ffocws at yr union achos.

“Roedd hi’n gyfnod ble’r oedd hi fel taflu carreg i lyn a gweld y tonnau’n ymestyn o hyd.”

Nid yw Cymru Ar Werth

Ar 19 Chwefror, bydd gorymdeithwyr yn teithio o Bont Trefechan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng nghanol tref Aberystwyth, er mwyn galw am gyflwyno Deddf Eiddo i sicrhau cartref i bob un yng Nghymru.

Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn dathlu hanner canrif ers y brotest ar Bont Trefechan, yn 2012

Dywed y Gymdeithas eu bod nhw’n croesawu’r mesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru, ond bod y “broblem yn ehangach na thai haf”.

Yn dilyn y ddêl rhwng Mark Drakeford ac Adam Price fe allai cynghorau gael pwerau newydd i gyfyngu ar greu ail gartrefi a gosod llety gwyliau.

Ac yntau yn bensaer a fu hefyd yn gynghorydd sir am flynyddoedd, mae gan Dafydd Iwan brofiad o heriau dyrys darparu tai.

“Rwy’n gweld e fel rhywbeth reit syml ble mae’n rhaid rhoi lot mwy o bwerau yn y drefn gynllunio i gynghorau sir, be’ bynnag yw eu gwendidau,” meddai.

“Nhw sy’n byw yn yr ardal a nhw ddylai fod yn penderfynu be’ sy’n digwydd.

“Mae angen creu marchnad leol ble mae modd cyfyngu ar y defnydd o dai i bobl o du allan.

“Yn ddelfrydol rwy’n cytuno gyda’r Gymdeithas mai Deddf Eiddo fyddai’r ateb, ond dw i ddim yn gweld hynny’n dod i rym yn y drefn gyfalafol sydd ohoni.”

Yn ogystal ag addewid i ddelio â’r argyfwng tai, mae’r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid yn cynnig gweledigaeth i Gymru a’r Gymraeg dros y tair blynedd nesaf.

Ac mae Dafydd Iwan yn croesawu’r cydweithio.

“Mae’n rhaid derbyn bod yna dir cyffredin rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru ac mae’n rhaid i hynny gael ei gyfieithu i weithredu gwleidyddol,” meddai.

“Ugain mlynedd ar ôl sefydlu Cynulliad sydd nawr yn Senedd, rydyn ni dal yn fyr o’r pwerau llawn sydd eu hangen,” meddai.

“Ond mae’n amlwg bod Llafur wedi llwyddo i berswadio’r rhan fwyaf o bobl Cymru eu bod nhw’n sefyll dros Gymru.

“Ond er ei bod yn Blaid Lafur Cymru, mae yn dal i fod ynghlwm wrth draed Keir Starmer, ac mae hynny’n broblem.”

A thra bo Llafur Cymru a’r Blaid Lafur Brydeinig dal yn un, mae Dafydd Iwan yn parhau i weld dyfodol i’w blaid ef.

“Mae gwaith Plaid Cymru yn parhau fel yr un peth a fuodd e erioed, sef dadlau’r achos dros annibyniaeth i Gymru.

“Ond nid tiriogaeth un blaid yw’r syniad o annibyniaeth neu hunanlywodraeth lawn.”

BiwrocratIAITH?

Er i araith ‘Tynged yr Iaith’ sbarduno ffurfio Cymdeithas yr Iaith mewn Ysgol Haf ym Mhontarddulais yn 1962, erbyn heddiw mae Dafydd Iwan yn gweld fod yna beryg wrth weithredu dros hawliau’r Gymraeg, o gael gormod o fiwrocratiaeth a gweithwyr swyddfa yn gwthio papur.

“Yn y pen draw nid swyddogion, deddfau, na pholisïau sy’n mynd i achub yr iaith, ond pobol ar lawr gwlad yn ei defnyddio hi, [pobol] o bob oed,” meddai.

“Rwyf yn meddwl weithiau ein bod ni wedi gor-gymhlethu’r sefyllfa.

“Mae yna ormod o swyddogion bach yn rhedeg rownd yn gwthio papur o gwmpas sydd dim yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth.

“Ac er bod rhai swyddogion yn help, mae yna beryg ein bod ni wedi gor-fiwrocrateiddio’r iaith.

“Gyda’r iaith… gallwn ni gael deddfau rhif y gwlith. Ond yn y pen draw, pobol yn dewis ei siarad o ddydd i ddydd sy’n mynd i’w hachub hi.”

60 mlynedd ers i Saunders Lewis ragweld marwolaeth yr iaith, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon.

“O ran [targed] 2050, dydw i ddim yn hollol siŵr be dw i’n meddwl am hynny. Fe all ddod yn faen melin am ein gyddfau ni,” meddai Dafydd Iwan.

“Y grym sy’n codi o’r gymuned ei hun fydd yn achub yr iaith yn y diwedd. Hynny yw, roedd e’n dda gweld Cymdeithas yr Iaith yn trefnu’r rali fawr yn Nhryweryn y llynedd.

“Ac mae’r ysbryd cymunedol yno i’w weld wedi’r pandemig, y grwpiau cymunedol yma sy’n prynu tafarndai gan roi gwedd Gymraeg arnyn nhw ac ehangu gweithgareddau o fewn y dafarn, fel maen nhw wedi gwneud ym Mryngwran [ym Môn] gyda’r Iorwerth Arms.

“Roeddwn yn clywed yn ddiweddar bod rhai Presbyteriaid wedi prynu capel lleol a rhai yn cynnig i’w wneud yn ganolfan gymunedol, ystafell ar gyfer adloniant ac ystafell ar gyfer addoli.

“Wel Haleliwia, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n byw i glywed hynny. Ond pe bai’r grwpiau cymunedol hyn yn creu stafelloedd amlbwrpas, onid dyna fuasai’r ddelfryd?”