Am naw mis o’r flwyddyn, mae Nia Stephens yn byw ac yn gweithio tua hanner milltir oddi ar arfordir Sir Benfro ar Ynys Dewi.

A hithau yn warden gydag elusen gwarchod adar yr RSPB ar yr ynys, mae gwaith Nia yn cynnwys croesawu ymwelwyr, edrych ar ôl y warchodfa natur a’r llwybrau, gwneud gwaith cynnal a chadw, a bwrw golwg ar y bywyd gwyllt.