Aeth bron i hanner canrif heibio ers i’r band roc Edward H Dafis ganu ‘Mae’n braf cael byw mewn tŷ haf, mae’n sbri cael berchen dau dŷ’.

Roedd hynny nôl yn y 1970au, ac erbyn y 1980au roedd Tai Haf Cymru yn fwy na thestun gwawd mewn cân bop, wrth i Feibion Glyndŵr fynd ati i’w llosgi nhw yn ulw.

Ond gyda dyfodiad y Cynlleiad ar derfyn y 1990au, roedd gobaith newydd o allu ffrwyno’r pla Tai Ha’ a chaniatáu i Gymry fedru fforddio byw yn eu cymunedau.