Efelychu llun lliwgar enwocaf Vincent Van Gogh mewn du a gwyn a wnaeth artist a gipiodd Wobr Lluniadu Kyffin Williams i fyfyrwyr yn ddiweddar.

Enw llun Zack James Robinson, sydd ar ganol ail flwyddyn ei radd mewn Celf Gain yng Ngholeg Menai ym Mangor, yw ‘Replica Van Gogh’, sef copi o ddarlun enwog y peintiwr o’r Iseldiroedd, ‘Cae Gwenith gyda Chypreswydd’.

Roedd gwobr yn cael ei rhoi i ddau fyfyriwr celf, a’r enillydd arall oedd Orestas Norkus, sydd hefyd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai. Eleri Mills, yr artist o Langadfan, oedd prif enillydd y Wobr Lluniadu ac mae gweithiau’r tri i’w gweld yn arddangosfa’r Wobr yn Oriel Môn tan ddiwedd mis Ionawr.

“Do’n i ddim yn meddwl baswn i’n ennill, at all,” meddai Zack Robinson, sy’n byw yng Nghaernarfon. “Mae’n deimlad anhygoel gallu curo rhywbeth mor bwysig. A Kyffin yn artist gorau Cymru – mae o’n bleser.”

Fe wnaeth Zack Robinson y darlun ar gais ei diwtor coleg, ar ôl iddi ofyn am waith wedi ei ysbrydoli gan arlunydd a oedd yn bwysig iddo. “Ond ro’n ni’n gorfod ei wneud o’n ddu a gwyn,” eglura’r artist. “Dyma fi’n meddwl might as well mynd am y paentiad siŵr o fod mwya’ diddorol allech chi ei ddewis mewn lliw, a thrïo’i wneud o mewn du a gwyn, ond yn dal i ddal y dyfnder yna yn y llun.”

Mae llun enwog Van Gogh yn baentiad sy’n llawn lliw, o las a gwyn a llwyd yr awyr a’i gymylau, melyn llachar y cae gwenith, a gwyrdd pŵl y coed.

“Mi wnes i joio’i wneud o, mae o’n ddarn reit fawr,” meddai’r myfyriwr. “Mi wnes i ei wneud o’n iwsio acrylig, a jest i layer-io fo am ddiwrnodau yn iwsio pallette knife. Mi wnes i gael lot o inspiration gan y tiwtor, ac mae Van Gogh yn amazing o artist, ac ro’n i eisie ei wneud o’n agos i sut oedd Kyffin yn gwneud ei waith.”

Roedd Syr Kyffin Williams, yr arlunydd dylanwadol o Langefni a fu farw yn 2006, yn enwog am wneud tirluniau trawiadol o syml o fynyddoedd Eryri a chefn gwlad, yn defnyddio cyllell baled. “Do’n i erioed wedi iwsio un o’r blaen,” meddai Zack Robinson. “Dydi o ddim yn hawdd; rhaid i chi gael y knack a gwneud y strôcs yn iawn. Roedd o’n wahanol.”

Mae’n bwriadu gwario’r wobr o £1,000 ar adnoddau ar gyfer ei gwrs gradd, a chadw ychydig at y flwyddyn nesaf. “Mae gen i lot o brojectau yn fy meddwl dw i eisio eu creu a wnaiff gostio,” meddai. “Pethau mawr, lot o sculpture work, ac mae clai yn costio hefyd. Mi wnaiff o i gyd fynd i mewn i fy nghelf.”

Roedd y llun buddugol yn wahanol i’r mathau o bethau mae’n eu gwneud fel arfer. Mae’n hoffi creu cerfluniau cyfoes a modelau tri dimensiwn yn defnyddio clai, past modelu a modroc – deunydd tebyg i plaster of paris – ac yn chwistrellu paent.

“Dw i’n licio dangos stori yn fy ngwaith,” meddai. “Dw i’n meddwl bod yna lot o ystyr ynddo fo. Faswn i’n gwneud rhywbeth mwy diverse fel arfer, felly roedd o dipyn bach out of my comfort zone creu llun fel hyn. Mi wnes i joio fo just as much, paid â chael fi’n rong.”

Cafodd Zack Robinson ei ysbrydoli’n fawr yn Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug, gan ei Athrawes Gelf, Jennifer Hughes, ac mae’n ddiolchgar am gefnogaeth ei diwtoriaid coleg, Owein Prendergast ac Iwan Gwyn Parry. Yn y byd celf, ei “top favourites” yw Kyffin a Van Gogh.

“A hefyd Lisa Eurgain Taylor, a oedd yn un o’r beirniaid – dw i’n edmygu ei gwaith hi lot,” meddai. “Mi faswn i’n lyfio bod fel hi pan fydda i’n hŷn! Mae hi wedi ffeindio’i steil. Dw i’n meddwl fy mod i ar y right track i ffeindio steil.”

Roedd Syr Kyffin yn gredwr mawr mewn dysgu lluniadu (drawing) i fyfyrwyr celf, ac mae rhywun yn tybio y byddai wedi hoffi clywed yr artist angerddol yma yn trafod ei waith celf.

“Dw i yn y brifysgol ar y funud ac, unwaith dw i’n pasio’r drydedd flwyddyn, dw i’n gobeithio mynd ymlaen i wneud cwrs Meistr mewn Celf Gain, neu Doctor of Arts,” meddai Zack, “a mynd i mewn i’r hanes hefyd, nid jyst y lluniau, i gael dysgu o le mae’r celf yma wedi dod a thrio gwneud rhywbeth efo fo yn y dyfodol.

“Dw i’n dal wrthi’n gwneud paentiadau, a dw i newydd fynd mewn i frodwaith. Dw i’n trïo gwneud rhywbeth gwahanol bob tro i adeiladu fy sgiliau. Os dw i’n mynd i rywle yn y dyfodol, dw i’n gallu dweud fy mod i’n medru gwneud hyn a’r llall, nid jyst paentio. Dw i’n licio graphic design hefyd, a printmaking, bob dim. Mae yna lot o elfennau i gelf.”

Celf yn “ryddhad” i’r meddwl

Mae Zack Robinson yn mwynhau celf ers ei blentyndod – roedd ei fam yn arfer paentio – ac mae celf wedi bod yn gysur iddo ar adeg anodd.

“Ro’n i bob tro wedi enjoio fo fel plentyn,” meddai, “yn ei ffeindio fo’n very therapeutic i’r iechyd meddwl. Dw i’n licio fy mod i’n gallu creu effaith ar y gynulleidfa, eisio nhw i deimlo [eu bod nhw] efo fi yn gwneud y darn.”

Tua saith mlynedd yn ôl, bu’n dioddef ag anhwylder bwyta, ac mae’n benderfynol o beidio â gadael i hynny ei ddal yn ôl.

“Ro’n i’n teimlo fod gwaith celf yn rhoi rhywbeth arall i fi ganolbwyntio arno, bod bywyd ddim yn rifolfio rownd bwyd bob tro,” meddai.  “Ro’n i’n teimlo’i fod o’n rhoi rhyddhad i fi, ac yn teimlo ei fod o’n rhywbeth ro’n i’n dda ynddo fo.

“Mae o wedi sticio efo fi ers fy mod i’n fach, yn rhywbeth ro’n i’n enjoio, a theimlo fy mod i’n gallu creu awareness [am anhwylder bwyta] yn y gwaith. Dw i’n gwneud lot o ddarnau yn y sketchbook yn trio creu awareness amdano fo. Mae gen i luniau o’r sgerbwd a sgetshys, yn trio dangos bod dynion yn mynd drwyddo fo hefyd.”

Un o’r rhain yw’r paentiad o gorff yn ceisio torri allan drwy weiren bigog, yn dangos cryfder a gallu’r sawl sydd bia’r corff. “Dydi o ddim bellach yn cael ei ddal gan anhwylder bwyta,” meddai’r artist.

Paentiad o gorff yn torri drwy
weiran bigog i arddangos cryfder
a gallu, heb fod wedi ei ddal mwyach
gan anhwylder bwyta

“Dw i yn recyfro, ond mae o’n anodd ei wthio fo oddi yna. Mae’r llais yn gry’ iawn, ond dydi o ddim yn fy ngwneud i yn llai cryf. Dw i’n berson fy hun. Dw i eisio gwneud rhywbeth efo fy mywyd, a dw i ddim eisio i hwnna fy stopio i rhag mynd lle dw i eisio mynd.”

Dyma un o’r rhesymau y mae’n edmygwr mawr o Van Gogh, a fu’n dioddef â salwch meddwl yn niwedd ei oes.

“Roedd lot o’i lunia’ fo wedi cael eu gwneud pan oedd o yn yr hospital yn y psychiatric unit, ac roedden nhw o’r hyn roedd o’n ei weld o’r ffenestr,” eglura Zack. “Ro’n i’n gweld rhywbeth reit drist amdan hynna; roedd o probably eisio mynd allan a chreu paentiad mewn ffordd wahanol.

“Dyna le dw i’n dod o, o ran fy mod i eisio dweud stori yn fy ngwaith. Mae cymaint o stori yn ei waith dydi pobol ddim yn ei wybod. Yn y diwedd, bechod, roedd o’n ddyn sâl, ia, ond roedd ei waith o yn dal yn top notch. Mi oedd o’n dal yn medru gwneud paentiad oedd yn werth miliynau hyd yn oed os oedd ei iechyd meddwl o ddim yn grêt.

“Mae o bron yn dweud lot am gyfnod o f’amser i, pan oedd fy iechyd meddwl ddim yn grêt. Ro’n i’n dal yn teimlo fy mod i’n gallu creu rhywbeth exciting, sy’n bwysig.”

Bydd gwaith yr artistiaid buddugol, Eleri Mills, Zack James Robinson ac Orestas Norkus, a’r artistiaid eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer, i’w gweld yn Arddangosfa Gwobr Lluniadu Kyffin Williams yn Oriel Môn tan 31 Ionawr 2022. Mae’r arddangosfa gyfan hefyd ar-lein yn orielmon.org