Mae’r sylwebydd pêl-droed Nic Parry yn rhybuddio bod rhaid i Gymru ddechrau meddwl am ddyfodol heb Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ac na ddylid “disgwyl gormod” gan Sorba Thomas, yr asgellwr sydd wedi ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf.