Fis yma, bydd Nikole Roberts yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Codi Pwysau Ieuenctid y Byd.

Ac mae hi ar dân dros ddenu mwy o ferched i godi pwysau, ac wedi cychwyn ei busnes ffitrwydd ei hun i’r perwyl hwnnw.

Dim ond 17 oed yw’r fyfyrwraig o Fangor yng Ngwynedd, sydd ar fin teithio i Jeddah, dinas ar arfordir y Môr Coch yn Saudi Arabia, er mwyn codi pwysau yn y categori 49kg gan gystadlu yn erbyn goreuon y byd.