Mae’r delynores dalentog, Gwenan Gibbard, wedi cychwyn cyflwyno sioe newydd ar Radio Cymru…

 

Beth allwn ni ddisgwyl ar raglen Ambell i Gân?

Amrywiaeth o gerddoriaeth werin o Gymru – ambell berl o’r archif a thraciau cyfoes hefyd, a’r cwbl, gobeithio, yn ddathliad o’r cyfoeth sydd yna yn ein traddodiad gwerin cerddorol ni.