Mae o’n rhywbeth sy’n baglu lot o fandiau ifanc Cymraeg… maen nhw yn cychwyn gwneud enw iddyn nhw ei hunain a – BANG! – mae’r gwahanol aelodau yn sbydu i golegau a gwaith mewn gwahanol gorneli o Gymru.

Rhywbeth felly fu hanes Y Cledrau, y band indi-roc ddaeth i’r fei gyda’r EP Un ar ôl y llall nôl yn 2015.