Mi wnes i ysgrifennu ychydig o wythnosau yn ôl am bwysigrwydd penodiad Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed.

Erbyn hyn rydyn ni’n gwybod pwy yw’r dyn sydd yn cymryd y rôl. Ac fel yr oeddwn i’n disgwyl – dyn yw e, nid menyw.

Noel Mooney yw’r Prif Weithredwr newydd – enw anghyfarwydd i mi.

Mae hynny’n beth da dw i’n meddwl. Mae angen gwaed newydd yn y gymdeithas, ond beth ydyn ni’n gwybod am Mooney?